top of page
Asset 1_3x.png

Partner Recriwtio Cymru

Mae Penodi, rhan o Grŵp Goodson Thomas, yn partneru â sefydliadau ledled Cymru sy'n gymdeithasol gyfrifol i gael canlyniadau cyflogi tecach o ansawdd uchel.

Rydym yn cysylltu sefydliadau â phobl eithriadol ledled Cymru a thu hwnt. Rydym ni’n cymryd yr amser i ddeall y cyd-destun y mae ein partneriaid yn gweithredu ynddo - o realiti marchnad lafur Cymru i’r ffactorau diwylliannol ac ieithyddol sy’n llunio llwyddiant yma.
 

Mae Penodi yn fusnes dwyieithog, sydd wedi'i wreiddio yng Nghymru ac sy'n gweithio i Gymru - ein gwerthoedd sy’n arwain pob penodiad.

Asset 2_3x.png
Penodi_Wales_RGB.png

Pam ddylech chi weithio gyda ni?

I ni, nid yw recriwtio yn rhywbeth trafodaethol - mae’n bartneriaeth.

​

Mae Penodi’n gweithio’n agos â sefydliadau sydd eisiau cyflogi’n effeithiol ac adeiladu ar gyfer y dyfodol. Mae hynny’n golygu ehangu mynediad at dalent, cryfhau cynrychiolaeth, a sicrhau bod pob penodiad yn ychwanegu gwerth.

​

Mae ein dull yn un ymarferol, yn seiliedig ar fewnwelediadau ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n creu sefydliadau cryfach a mwy effeithiol.

Ein cenhadaeth yw partneru â sefydliadau ledled Cymru sy'n gymdeithasol gyfrifol i greu canlyniadau cyflogi tecach a thimau o ansawdd uchel.

Penodi_Welsh language_RGB.png

Ein Gwerthoedd

Y prif egwyddorion sy'n llywio popeth a wnawn a phob un o'n penodiadau.

Uniondeb

Gonest a dibynadwy. Rydym wedi ymrwymo i lwyddiant pob cleient ac ymgeisydd.

Effaith

Rydym yn sicrhau penodiadau sy’n creu gwerth parhaus i sefydliadau a chymunedau.

Cynhwysiant

Rydym yn ehangu mynediad at dalent a chyfleoedd ledled Cymru drwy weithredu’n rhagweithiol.

Ansawdd

Penderfynol a safon uchel i bopeth a wnawn.

Cymru

Dealltwriaeth amlwg o Gymru - yn gymdeithasol, yn wleidyddol, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol.

Dewch o hyd i'ch cyfle nesaf

Chwiliwch am rôl lle gall eich sgiliau Cymraeg ddisgleirio.

Cyfleoedd
Diweddaraf

Dod o hyd i'r swydd berffaith i chi

Latest Opportunities

Find the perfect job for you

Salary Info

Cardiff

Latest Opportunities

Find the perfect job for you

Salary Info

Cardiff

Latest Opportunities

Find the perfect job for you

Salary Info

Cardiff

Penodi_Client partner_RGB.png

Ar gyfer cleientiaid

Rydym yn hwyluso'r broses recriwtio.
 

Gyda gwreiddiau yng Nghymru a’i chymunedau, ac yn cael ein cefnogi gan gyrhaeddiad ehangach Grŵp Goodson Thomas, Rydym yn cyflwyno ymgeiswyr sy’n cwrdd â’ch disgwyliadau chi. Rydyn ni’n gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn cyrraedd cymaint o gymunedau â phosib, yn cael mynediad at y dalent gryfaf a fwyaf perthnasol sydd ar gael, ac yn elwa o fewnwelediadau o’r farchnad y gellir gweithredu arnynt.

Y canlyniad: rhestrau byrion cryfach a mwy cynrychioladol, penodiadau gwell, ac effaith barhaol.

Asset 14_3x.png

Ar gyfer ymgeiswyr

Rydym yn eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa gyda chyflogwyr sy’n gwerthfawrogi’r hyn sydd gennych i’w gynnig.
 

Gan ganolbwyntio ar swyddi hyd at lefel rheolaeth ganol, rydym yn eglur ynghylch yr hyn sydd ei angen ar gyfer pob rôl ac yn onest ynghylch a yw’n addas i chi. Rydyn ni’n cysylltu pobl dalentog o bob cymuned yng Nghymru gyda sefydliadau sydd eisiau cyflogi a chreu ar gyfer y dyfodol.

Ein partneriaid

 Ein Hymrwymiadau

Mae ein hymrwymiadau i gydraddoldeb, Cymru a gweithredu ar yr hinsawdd yn rhai byw

Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Wrth chwilio am yr ymgeisydd cywir, rydym yn herio ein hunain i ymgysylltu gydag unigolion o wahanol oedran...

Darllen mwy
Cymru

Fel busnes sydd wedi’i sefydlu a’i wreiddio yng Nghymru, rydym yn falch o weithio gyda phartneriaid yn y sector...

Darllen mwy
Mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd

Mae Goodson Thomas yn cydnabod ei rôl o fewn sector cyhoeddus Cymru i gyrraedd sero net erbyn...

Darllen mwy
Asset 8_3x.png

Talent sy’n cryfhau dyfodol Cymru

Yn Penodi, rydym yn cydnabod ein rôl o helpu sefydliadau ledled Cymru sy'n gymdeithasol gyfrifol i gyflawni canlyniadau cyflogi tecach ac o ansawdd uchel, ehangu cyfleoedd a diogelu’r dalent sy’n cryfhau dyfodol cymdeithasol ac economaidd Cymru.

Cwestiynau a allai fod gennych am Penodi

Atebion go iawn sy’n deillio o’n gwaith bob dydd

  • Oherwydd bod recriwtio yng Nghymru’n elwa o ddull ystyriol, wedi’i deilwra - a dyna sut rydyn ni’n gweithio.

    ​

    Mae ein gwaith wedi’i adeiladu o amgylch sefydliadau yng Nghymru. Rydyn ni’n gwneud yn siŵr ein bod yn deall cyd-destun y farchnad, yr ystyriaethau ieithyddol, uchelgeisiau o ran cynrychiolaeth a deinameg ymgeiswyr sy'n llywio eich anghenion recriwtio. Mae’r mewnwelediad hwnnw wedi’i gyfuno â safonau a chyrhaeddiad y Grŵp Goodson Thomas. Y canlyniad yw ymgeiswyr sy’n addas i’ch sefydliad chi.

  • Mae Penodi yn rhan o’r Grŵp Goodson Thomas. Mae Goodson Thomas Executive Search yn canolbwyntio ar benodiadau lefel uwch weithredol ac aelodau bwrdd.

    ​

    Mae Penodi wedi’i sefydlu ar gyfer rolau rheolaeth ganol sy'n galluogi sefydliadau i symud ymlaen – lle mae gwaith yn cael ei gyflawni, timau'n cael eu llunio, ac arweinwyr y dyfodol yn dod i'r amlwg. Ar draws y ddau, rydych chi’n elwa ar yr un safonau uchel a dull partneriaeth.

  • Naci. Mae pob aseiniad wedi’i greu i gyrraedd talent o bob cymuned. Mae’r cydbwysedd yn diogelu ansawdd, yn ehangu mynediad ac yn adlewyrchu Cymru fel y mae heddiw.

     

    Ar gyfer rolau lle mae’r Gymraeg yn hanfodol, rydyn ni’n helpu cleientiaid i feddwl yn ofalus am y lefel o Gymraeg sydd ei hangen, sut i osod rolau i apelio at ymgeiswyr gyda sgiliau iaith gwahanol, ac a allwch chi gefnogi unigolion i ddatblygu eu Cymraeg. Rydyn ni’n falch o fod yn ddwyieithog ac mae hynny’n bwysig i ni.

  • Os ydych chi’n gweld yr un CVs, nid yw’r ymchwil yn ddigon eang neu nid yw wedi’i dargedu yn y ffordd gywir.

    ​

    Mae Penodi yn mynd y tu hwnt i’r trywyddion arferol. Oes, mae gennym ni gronfa ddata o ymgeiswyr, ond rydym hefyd yn mynd ati’n rhagweithiol i estyn allan i rwydweithiau, cymunedau a chronfeydd talent gwahanol ledled Cymru a thu hwnt. Mae hynny’n golygu cronfa gryfach a mwy amrywiol o ymgeiswyr - nid dim ond rhestr hirach o enwau cyfarwydd.

  • Rydyn ni’n cytuno. Nid ydym yma i’ch boddi gyda cheisiadau.

    ​

    Mae ein gwerthoedd - ac felly ein rhestrau byrion - yn seiliedig ar farn, perthnasedd ac addasrwydd. Rydym ni’n treulio amser yn dod i ddeall y rôl, y sefydliad a’r cyd-destun gweithredu, yna’n tynnu rhestr fer ystyriol a chredadwy o bobl all wneud y gwaith a chryfhau eich tîm. Mae pob ymgeisydd a gyflwynwn yno am reswm.

  • Nid llinell ar CV yw deall Cymru. Mae’n ymwneud â safbwynt.
     

    Rydyn ni’n chwilio am ymgeiswyr all weithredu o fewn cymunedau Cymru, llywio perthnasoedd â rhanddeiliaid a deall y cyd-destun diwylliannol ac ieithyddol lle mae’n bwysig. Mae’r lefel honno o addasrwydd yn rhan o bob chwilio, nid rhywbeth sy’n cael ei ychwanegu fel ôl-ystyriaeth.

  • Wrth ei wneud yn rhan annatod o’r broses ac nid ei ychwanegu ar y diwedd.

     

    Rydyn ni’n llunio pob brîff, strategaeth ymchwil a dull asesu i ehangu mynediad o’r dechrau. Mae hynny’n golygu estyn y tu hwnt i’r amlwg, cael gwared ar rwystrau lle bo’n bosib, a chreu proses decach i bob ymgeisydd. Nid yw hyn yn ymwneud â chynrychiolaeth arwynebol ond yn hytrach am wella ansawdd proses fel y gall mwy o bobl gael mynediad i gyfleoedd a sefydliadau adlewyrchu’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.

  • Partner recriwtio gonest sy’n herio’r brîff pan fo angen ac yn aros gyda chi hyd nes daw canlyniad llwyddiannus.

    ​

    Gallwch ddisgwyl:
     

    • Cronfa o ymgeiswyr cryfach a mwy perthnasol

    • Cyngor gonest drwyddi draw

    • Mewnwelediad i’r farchnad yng Nghymru

    • Partner sy’n aros gyda chi hyd at y penodiad cywir

Rhoi Eich Potensial Lle Mae'n Cyfrif Fwyaf

Yn Penodi, rydym yn deall gwerth y Gymraeg. Rydym, fel siaradwyr Cymraeg, dwyieithog sy'n arbenigo mewn recriwtio, yn eich cysylltu â chyflogwyr sy'n blaenoriaethu dawn ddwyieithog, gan eich helpu i gamu ymlaen yn eich gyrfa.

bottom of page