
Ein harbenigedd a'n dull
Mae’r enw Penodi yn adlewyrchu ein hamcan i gefnogi busnesau a sefydliadau ledled Cymru i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Fel cangen o’r cwmni chwilio gweithredol sefydledig Goodson Thomas, rydym yn cynnig arbenigedd yn y diwydiant, profiad helaeth, a rhwydwaith sy’n ein galluogi i gyrraedd cronfa eang o ymgeiswyr.
Rydym yn cydnabod mai dim ond un agwedd ar farchnad recriwtio gymhleth yw’r Gymraeg - marchnad all fod yn gostus a chymryd llawer o amser i’w llywio heb arweiniad arbenigol. Rydym yn gweithio gyda chleientiaid i sicrhau bod eich cyfleoedd yn sefyll mas yn y farchnad.
Ar gyfer rolau lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, rydym yn helpu ymgeiswyr i ddefnyddio a chyflwyno’u galluoedd yn llawn. Ar gyfer rolau dymunol, rydym yn cynrychioli ymgeiswyr o bob cymuned yng Nghymru, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg.
Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod dwyieithrwydd yn cynrychioli mwy na sgiliau iaith yn unig; mae'n adlewyrchu nodau a diwylliant penodol eich busnes, gan helpu i ddenu'r dalent orau.
Y Tîm
Ein Partneriaid









Ross O'Keefe
Rheolwr Gyfarwyddwr
Mae Ross, Rheolwr Gyfarwyddwr Penodi a Good Thomas, yn Rheolwr Siartredig ac yn Gymrawd y Sefydliad Rheolaeth Siartredig. Mae’n cael ei gydnabod hefyd yn Gymrawd o’r Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth, sy’n dyst i’w arbenigedd mewn caffael a datblygu talent, ac yn Aelod Cyswllt o’r CIPD, sy’n dangos ei ymroddiad i fod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf ym maes adnoddau dynol. Gyda 15+ mlynedd mewn arweinyddiaeth pobl strategol, mae Ross yn rhagori mewn recriwtio, profiad cwsmeriaid, hyfforddi a datblygu busnes. Mae ei effaith o ran trawsnewid busnes ac ymgyrchoedd recriwtio ar gyfer ymgeiswyr o bob lefel yn dangos agwedd strategol ac ymrwymiad i ragoriaeth.

Catrin Taylor
Cyfarwyddwr
Mae Catrin, Cyfarwyddwr Penodi a Goodson Thomas, yn weithiwr recriwtio proffesiynol profiadol gyda chefndir cyfoethog mewn mewnwelediadau corfforaethol. Wedi bod yma ers dros 2 flynedd, mae hi'n rhagori wrth adnabod y dalent orau ar draws sawl sector gan gynnwys addysg, elusennau, y celfyddydau a thrafnidiaeth. Cyn hynny, fel Pennaeth Marchnata Amgueddfa Cymru, bu Catrin yn arddangos arbenigedd mewn cyfathrebu argyfyngau a rheoli newid. Mae ei hymagwedd ymarferol a'i hymrwymiad i alinio talent ag anghenion sefydliadol yn ei gwneud yn ased gwerthfawr.

Steffan Jones
Ymgynghorydd
Ymunodd Steffan, ymgynghorydd gyda Penodi a Goodson Thomas, â’r tîm ar ôl treulio degawd yn y sector cyhoeddus, yn gweithio fel Uwch Swyddog gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Mae Steffan yn rhagori mewn datblygu busnes, chwilio gweithredol a recriwtio, gan arddangos hyblygrwydd ac ymrwymiad i ragoriaeth, gan arwain a darparu cefnogaeth ragorol i ystod eang o aseiniadau chwilio a recriwtio. Mae Steffan yn frwd dros weld Cymru’n datblygu fel gwlad fodern, ryngwladol, yn ogystal â sicrhau safle canolog i’r Gymraeg o fewn gweithluoedd a gweithleoedd Cymru.

Kim Richards-Guy
Cydlynydd Recriwtio
Kim yw Cydlynydd Recriwtio Penodi. Mae ganddi dros 17 mlynedd o brofiad ym meysydd cyfathrebu, cymorth gweithredol a rheoli swyddfa ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Treuliwyd pedair blynedd o hyn yn gweithio o fewn y sector addysg uwch a ariennir gan y llywodraeth yn Abu Dhabi, Emiradau Arabaidd Unedig.
Mae'n arwain ar holl rolau Penodi, o sesiynau briffio cychwynnol i gleientiaid hyd at leoliadau ymgeiswyr. Mae ei sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog yn rhoi'r gallu iddi wneud partneriaid yn gartrefol gan arwain at gronfa gref, wybodus a hyderus o ymgeiswyr ar gyfer ein cleientiaid.